Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2023
Amser:
09.00 -
09.05
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhaglen Lifogydd 2023/24 (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant Cyffredin a Ffyniant Bro (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar weithredu Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Ddiagnostig Genedlaethol (30 munud)
Dydd Mawrth 2 Mai 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiwygio Trethi Lleol (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Myfyrwyr fel Dinasyddion – Addysg Uwch (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Wednesday 10 Mai 2023 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – 2022-23 (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru (30 munud)
·
Amser a neilltuwyd i’r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Papur i’w nodi - gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a bwriad Llywodraeth Cymru i osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil y tu hwnt i’r amserlenni arferol.
4.2 Papur i’w nodi - llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a safbwynt y Pwyllgor na fyddai’n gallu cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 4) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).
5 Unrhyw faterion eraill
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar lafar a chytunodd i gyfeirio ymlaen llaw’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Rhif 2, a fydd yn cael ei osod yr wythnos hon, at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 8 Mehefin 2023.